Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
National Assembly for Wales |
|
||
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon |
Health, Social Care and Sport Committee |
|
||
Ymchwiliad i iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu |
Inquiry into Mental health in Policing and Police Custody |
|
||
HSCS(5) MHP04 |
|
|||
Ymateb gan Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Evidence from Public Health Wales |
|
||
|
||||
|
|
|||
Public Health Wales Response to the Health, Social Care and Sport Committee Inquiry into Mental Health in policing and police custody |
|
|||
Public Health Wales welcomes the opportunity to contribute to the Health, Social Care and Sport Committee inquiry into mental health in policing and police custody.
Ar hyn o bryd, dim ond y gair ‘amrywiol’ y gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru ar gyfer y rhai sy'n profi problemau iechyd meddwl yn y gymuned.
Yn hollbwysig, nid oes dealltwriaeth na iaith gyffredin o ran yr hyn a ystyrir yn fater ‘iechyd meddwl'; gallai hyn amrywio o rai sy’n arddangos galar eithafol yn dilyn profedigaeth (sy’ ddim yn gysylltiedig â iechyd meddwl) i gyflwr iechyd meddwl sydd wedi'i ddiagnosio neu sydd heb ei ddiagnosio.
Mae lefel y dryswch ynghylch yr hyn sy'n gyfystyr â mater/cyflwr/anhwylder iechyd meddwl i bobl ifanc yn ychwanegu haen o gymhlethdod. Mae bwlch mawr rhwng yr hyn y mae clinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill - a dinasyddion - yn ystyried yn hyn o beth.
Nid yw'n syndod chwaith fod diffyg eglurder amlwg ynglŷn â pha opsiynau ymyrraeth gynnar a chyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer atgyfeirio o fewn y gymuned. Mae her ychwanegol yn bodoli o ran, lle mae'r darpariaethau hynny yn bodoli mewn lleoliad cymunedol ac yn wir yn hysbys i staff, pwy sy’n gallu cyfeirio at y gwasanaethau hynny h.y. gweithwyr meddygol proffesiynol yn unig neu aelodau o'r heddlu a'r system cyfiawnder troseddol a beth yw'r 'trothwy' derbyniol ar gyfer derbyn atgyfeiriadau.
Mae darparu nyrsys Cyfiawnder Troseddol o fewn y ddalfa unwaith eto'n amrywio gyda rhai byrddau iechyd yn arddangos swyddi gwag am fisoedd lawer.
Yn ogystal, ychydig iawn o nyrsys y ddalfa a ddarperir sydd wedi derbyn hyfforddiant ddeuol (iechyd cyffredinol a meddwl) â mwy o wybodaeth am gyfleoedd ymyrryaeth gynnar.
Byddai gwerth mewn edrych ar gyfleoedd ledled Cymru neu ymarfer 'dealltwriaeth' sy'n adlewyrchu'r gwaith deallus a wnaed ynghylch bregusrwydd yn y peilot trwy Gronfa Arloesi yr Heddlu ym Maesteg - un a ragflaenodd y Rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd, sy'n edrych ar Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE) a dull o blismona bregusrwydd sydd wedi ei hysbysu gan drawma.
Byddai'r darn dealltwriaeth hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn caniatáu i Gymru ddatblygu dealltwriaeth a iaith traws-bartner. Byddai'n caniatáu i ni, am y tro cyntaf, i ddeall darpariaeth gwasanaeth ar bob lefel ac, yr un mor bwysig, nodi ble mae ein bylchau ac felly ein cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau ymyrraeth cynnar.
Wedi hynny, gallai'r dystiolaeth a'r dysgu a gesglir o'r ymarfer dealltwriaeth yma gyfrannu at ddatblygu pecyn hyfforddi ar y cyd ar gyfer swyddogion yr heddlu a phartneriaid (e.e. staff y ddalfa aml-asiantaeth, partneriaid iechyd/gofal cymdeithasol) o amgylch iechyd meddwl a darpariaeth iechyd meddwl o fewn y gymuned, gan ganolbwyntio ar gymorth a chyngor i'r unigolyn ei hun a'u rhwydwaith cefnogi/teulu.
Nid Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd yn y sefyllfa orau i ymateb i'r cwestiwn hwn ond byddem yn ceisio sicrwydd ynghylch darparu lle addas, diogel i rai dan 18 oed gan ein bod yn ymwybodol bod hyn hefyd yn amrywiol ledled Cymru.
Nid oes gan Iechyd Cyhoeddus Cymru unrhyw sylw i’w wneud mewn perthynas â’r mater hwn.
Nid oes gan Iechyd Cyhoeddus Cymru unrhyw sylw i’w wneud mewn perthynas â’r mater hwn.
Er na all Iechyd Cyhoeddus Cymru ateb y cwestiwn hwn yn uniongyrchol, o safbwynt ACE, mae'r tirwedd o safbwynt ymyrraeth gynnar yn aneglur.
Yn ogystal, o safbwynt y rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd, rydym yn ymwybodol bod diffyg ymgysylltu ar draws pob maes rhaglen, o iechyd yn gyffredinol a iechyd meddwl oedolion yn benodol.
Nid oes gan Iechyd Cyhoeddus Cymru unrhyw sylw i‘w wneud mewn perthynas â’r mater hwn.
Rydym yn ymwybodol o'r trefniadau llywodraethu presennol. Yr unig sylw y byddem yn ei wneud yw bod iechyd meddwl fel ACE mor gyffredin mewn cymunedau fel ei fod yn deilwng o gael staff perthnasol o fewn Llywodraeth Cymru i oruchwylio gweithredu'r cytundeb yn hytrach na bod hwn yn rhan fach ychwanegol o bortffolio ehangach o gyfrifoldebau ar lefel weithredol.